Dyma gyfarfod anffurfiol i ferched lle daw siaradwr, neu byddwn yn astudio darn o’r Beibl gyda’n gilydd – dros baned! Croeso i ferched eraill ymuno â ni yn y capel bob yn ail fore Mercher, am 10:00.
Yn y cyfnod anodd yma rydym ni'n chwilio am ffyrdd i wasanaethu ac i adeiladu ein gilydd. Os gallwn ni fel Eglwys eich gwasanaethu chi rhywsut, yna plîs cysylltwch â ni. Ni'n cwrdd ar wahanol adegau dros Zoom a phethau tebyg i weddïo, astudio'r gair ac i gymdeithasu. Os hoffwch ymuno, yna plîs cysylltwch am fanylion pellach. gwybodaeth@cwmpawd.org | www.facebook.com/cwmpawd | @cwmpawd_org