Hanes yr Eglwys

Dechreuodd yr Eglwys yn 1979 wrth i griw o Gristnogion yng Nghaerdydd a’r cylch weld yr angen am eglwys Efengylaidd, Gymraeg ei hiaith, yn y ddinas. Yn Nhŷ’r Cymry ar Gordon Road y bu’r cwmni yn cyfarfod i ddechrau, ac yna yn Crofts Street cyn symud i hen adeilad yr Urdd yn Nhreganna. Prynodd yr Eglwys yr adeilad ar Harriett Street yn 1997 a dyna lle’r ydym wedi bod yn addoli ers hynny.

Deuddeg aelod oedd yn yr eglwys ar y dechrau a’r Parch Noel Gibbard yn arwain y weinidogaeth cyn galw’r Parch Gwynn Williams o Sandfields, Port Talbot yn 1983, a’r ddau yn rhannu’r weinidogaeth i ddechrau.  Wedi dros 20 mlynedd o weinidogaeth ffyddlon Gwynn a’r aelodaeth bellach yn tua 50 aelod a chynulleidfa o ryw 70 yn cwrdd ar fore Sul, teimlai’r Eglwys yr angen i alw gweithiwr arall. Felly rhwng 2006-2008 bu Lewis Roderick gyda ni, yn weithiwr dan hyfforddiant, cyn mynd i astudio yng Ngholeg Cornhill, Llundain a nawr mae’n weinidog yn Eglwys Christchurch, Casnewydd.

Penderfynwyd chwilio am weithiwr yn ei le a daeth Trystan Hallam atom. Mae Trystan yn dod yn wreiddiol o Rydaman, ond treuliodd gyfnod yng Ngholeg y Bala ac yn Llanbed yn gwneud gwaith Cristnogol.

Yna, yn 2011, ymunodd Emyr James â’r tîm. Cafodd Emyr ei fagu yn yr Eglwys. Wedi cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, daeth Emyr nol i Gaerdydd a theimlo arweiniad i waith Cristnogol. Arweiniodd Duw ni fel eglwys i fuddsoddi mewn hyfforddiant diwinyddol i Emyr yng ngholeg WEST, Bryntirion.

Wedi cyfnod o weddïo a thrafod a gwahodd pregethwyr atom, daeth yn amlwg i ni fel eglwys fod Duw wedi darparu dau weithiwr â’r doniau i arwain yr eglwys pan fyddai Gwynn yn ymddeol. I ddechrau penodwyd Trystan yn Weinidog Cynorthwyol ac Emyr yn weinidog dan hyfforddiant, cyn i’r ddau ddod yn henuriaid ac yn gyd-weinidogion.

Yna, yn Ionawr 2016 derbyniodd Trystan alwad i fod yn weinidog ar eglwys yn Nhredegar, gan adael Emyr fel gweinidog ar yr eglwys yng Nghaerdydd.