Ein Dyfodol

Ein Dyfodol: Gweledigaeth i Genhadaeth

Cardiff Welsh Evangelical Church: A Vision for Mission


Ein Cyfle

Ffurfiwyd ein heglwys yn 1979 gyda’r weledigaeth o sefydlu tystiolaeth Efengylaidd trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd. Daeth hyn o’r argyhoeddiad fod eglwys Gymraeg yn hanfodol i brifddinas Cymru, nid yn unig i ganiatáu i bobl addoli’r Arglwydd yn rhydd ac yn rhwydd yn eu mamiaith, ond hefyd er mwyn cyrraedd y nifer cynyddol o siaradwyr Cymraeg yn y ddinas sydd heb gyswllt eglwysig. Mae llawer ohonynt mor angerddol am y Gymraeg fel y byddai bron yn amhosibl eu cyrraedd trwy unrhyw iaith arall.

Mae Caerdydd yn ddinas o tua 350,000 o bobl. Dangosodd data Cyfrifiad 2021 mai gan Gaerdydd yr oedd y twf mwyaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Erbyn hyn, mae bron i 15% o boblogaeth y ddinas yn gallu siarad Cymraeg, ac mewn rhannau o orllewin a gogledd Caerdydd mae’r ganran honno’n aml yn uwch na 25%, gan gyrraedd bron i 50% mewn rhai cymdogaethau.

Mae gan Gaerdydd 15 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ar draws y ddinas, ynghyd â thair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, mae prifysgolion a sefydliadau addysg bellach Caerdydd yn cynnig nifer cynyddol o fodiwlau cyfrwng Cymraeg. Mae yna hefyd amrywiaeth o gyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sydd â tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Fel y brifddinas, mae Caerdydd yn bwynt strategol i ddylanwadu ar weddill y wlad. Mae’n gartref i wahanol gyrff a sefydliadau cenedlaethol, yn enwedig Senedd Cymru. Mae hefyd yn ganolbwynt amlwg i’r cyfryngau ac yn ganolfan fasnachol bwysig. Gan fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, mae cyfleoedd niferus i siaradwyr Cymraeg gael gwaith yn y brifddinas, yn y sectorau preifat a chyhoeddus, a chaiff llawer eu denu yma o bob rhan o Gymru.

Ein Sefyllfa

Mae’r eglwys wedi tyfu dros y blynyddoedd ac yn rhagluniaethol bu modd i ni brynu ein hadeilad ein hunain yng nghanol Caerdydd yn 1997. Er bod yr adeilad hwnnw’n welliant mawr ar ein lleoliadau blaenorol, wrth i’r eglwys dyfu, daeth sawl diffyg yn gynyddol amlwg, o ran maint a lleoliad. Mae’r adeilad mewn ardal o’r ddinas â nifer cymharol fach o siaradwyr Cymraeg ynddi, mae parcio wedi dod yn wirioneddol anodd, ac roedd y cyfleusterau cyfyngedig yn rhwystro’n gallu i gwrdd â’n gilydd a gwasanaethu eraill. Cyn y pandemig, roeddem eisoes wedi dod i’r argyhoeddiad y dylem chwilio am adeilad mwy addas ar gyfer ein hanghenion presennol, a fyddai hefyd yn rhoi’r potensial i ddatblygu ac ymestyn ein gweinidogaeth. Roedd y pandemig yn golygu nad oeddem yn gallu defnyddio ein hadeilad ein hunain am gyfnod sylweddol, ond agorodd y drws i ni rentu adeilad mwy o faint mewn ardal o’r ddinas ag ynddi ganran lawer uwch o siaradwyr Cymraeg a heb unrhyw broblemau parcio! Rydym yn dal i ddefnyddio’r lleoliad hwn ar gyfer ein prif gyfarfodydd ar hyn o bryd ac rydym eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer y mynychwyr ers y newid lleoliad.

Our Opportunity

Our church was founded in 1979 with the vision of establishing an Evangelical witness through the medium of the Welsh language in Cardiff. This grew from the conviction that a Welsh- language church was essential for the capital city of Wales, not only to allow people to worship the Lord freely in their mother tongue, but also to reach the growing number of unchurched Welsh-speakers in the city, many of whom are so passionate about their heritage that it would be nearly impossible to reach them through any other language.

Cardiff is a city of approximately 350,000 people. The 2021 Census data showed that Cardiff had the highest growth in the number of Welsh-speakers of any local authority in Wales. By now, almost 15% of the city’s population can speak Welsh, and in parts of west and north Cardiff that percentage is frequently above 25%, reaching almost 50% in some neighbourhoods.

Cardiff has 15 Welsh-medium primary schools spread throughout the city, together with three Welsh-medium secondary schools. In addition, Cardiff’s universities and further-education establishments offer an increasing number of Welsh-medium modules. There is also a range of opportunities for adults to learn Welsh, supported by the Welsh Government, who have a target of one million Welsh-speakers by 2050.

As the capital city, Cardiff provides a strategic point to influence the rest of the country. It is home to various national bodies and institutions, not least the Welsh Parliament. It is also a major media hub and commercial centre. Since Welsh is an official language in Wales, there are numerous opportunities for Welsh-speakers to gain employment in the capital, in both private and public sectors, and many are drawn here from all parts of Wales.

Our Situation

The church has grown over the years and providentially we were able to purchase our own building in central Cardiff in 1997. While that building was a great improvement on previous locations, as the church grew, several deficiencies in terms of size and location became increasingly obvious. The building is in an area of the city with relatively few Welsh-speakers, parking has become incredibly difficult, and the limited facilities were restricting our ability to meet together and serve others. Prior to the pandemic, we had already come to the conviction that we should seek more suitable premises for our existing needs, which would also provide the potential to develop and extend our ministry. The pandemic meant that we were unable to use our own building for a considerable period, but the door opened for us to rent a larger building in an area of the city with a much higher percentage of Welsh-speakers and with no parking problems! We are still currently using this location for our main meetings and have already seen an increase in attendance since this change to a more suitable location.

Ein Dyfodol

Rydym bellach wedi cymryd cam o ffydd ac wedi gwerthu ein hadeilad ein hunain yn ddiweddar, er nad ydym wedi dod o hyd i leoliad parhaol newydd eto. Rydym eisoes yn cynnal rhychwant o weinidogaethau buddiol a bendithiol, gan gynnwys rhai i blant a phobl ifainc, ac rydym yn cynnal ystod o weithgareddau efengylu. Ein dyhead yn awr yw cael lleoliad parhaol newydd a fydd yn ein galluogi i gynnal ein gweithgarwch presennol ond hefyd i ddatblygu’n gweinidogaeth i gyfeiriadau newydd, a hynny mewn man a fydd mewn safle hwylus o ran adeiladu pontydd i’r gymuned a chreu cyfleoedd pellach i wasanaethu a rhannu’r efengyl.

Ein gobaith yw, pan ddaw eiddo neu ddarn o dir addas i’r golwg, y byddwn yn gallu symud yn gyflym. Trwy’r elw o werthu ein hen adeilad, a’r arian a neilltuwyd eisoes gennym fel eglwys, mae tua £500,000 yn ein cronfa adeiladu. Er bod hwn yn swm sylweddol, mae’r farchnad eiddo yng Nghaerdydd yn golygu ein bod yn wynebu her ryfeddol. Fodd bynnag, o ystyried rôl strategol Caerdydd yng Nghymru, ei bywyd cymunedol Cymraeg bywiog, a’r twf sylweddol mewn addysg gyfrwng Cymraeg a fydd yn creu cenedlaethau i’r dyfodol o siaradwyr Cymraeg y gall ein heglwys eu cyrraedd, rydym yn fwy argyhoeddedig nag erioed o ddilysrwydd gweledigaeth sylfaenol ein heglwys a bod y meysydd yn wyn i’r cynhaeaf.

Eich Rhan

Yn gyntaf oll, trwy weddi.  Yr ydym yn hollol ddibynnol ar yr Arglwydd yn hyn, fel ym mhob mater, ac yn agored i’w arweiniad.

Our Future

We have now taken a step of faith and recently sold our own building, despite not yet having found a new permanent location. We already have vital ministries, including to children and young people, and hold a range of evangelistic activities, and we dream of having a new permanent location which will be a hub of activity and support, building bridges into the community and creating further opportunities to foster relationships and share the gospel.

Our hope is that when a suitable property or plot of land becomes available, we will be able to move quickly. Through the proceeds of the sale of our old building, and money already set aside as a church, we have approximately £500,000 in our building fund. While this is a significant sum, the property market in Cardiff means we face an extraordinary challenge.

However, given Cardiff’s strategic role in Wales, its vibrant Welsh-language community life, and the significant growth in Welsh-medium education, thus creating future generations of Welsh-speakers our church can reach, we are more convinced than ever of the validity of the founding vision of our church and that the fields are white for harvest.

Your Part

First of all, through prayer.  We are completely dependent upon the Lord in this, as in all matters, and are open to his guidance.

Ond mae gennym obaith mawr. Mae gennym rai ffrindiau hael eisoes sy’n gweld ein gweledigaeth ac yn cefnogi ein cynllun. Gallwch chi ymuno â nhw naill ai trwy addo neu trwy roi yn awr, wrth i ni geisio lle y bydd Duw yn ein harwain. Nid ydym am roi unrhyw gyfyngiadau ar yr hyn y gallai Duw eich cymell i’w roi, ond gallwn ragweld llwybr i’n nod terfynol a allai edrych rhywbeth fel hyn:

  • 250 rhodd o £100 = £25,000
  • 100 rhodd o £500 = £50,000
  • 50 rhodd o £5,000 = £250,000

Byddem yn hynod ddiolchgar am unrhyw swm y gallech ei roi. Ac wrth gwrs, mae’n bosibl iawn y bydd unrhyw rodd a roddwch yn cael ei lluosi wrth i ni fynd at ymddiriedolaethau amrywiol a chyrff dyfarnu grantiau a fydd yn cael eu hannog i gyfrannu wrth iddynt weld eich haelioni chi. Mae’n bosibl rhoi yn gyflym ac yn hawdd trwy ddilyn y ddolen hon:

But we have great hope. We already have some generous friends who see our vision and support our plan. You can join them by either pledging or giving now, as we seek where God will lead us. We do not want to put any limits on what God might move you to give, but we can envision a path to our end goal that might look something like this:

  • 250 gifts of £100 = £25,000
  • 100 gifts of £500 = £50,000
  • 50 gifts of £5,000 = £250,000

We would be immensely grateful for any amount you might give. And of course, any gift you give might well be multiplied as we approach various trusts and grant-giving bodies who will be encouraged to contribute as they see your generosity. It is possible to give quickly and easily by following this link:

Neu, gellir anfon sieciau yn daladwy i ‘Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd’ at ein gweinyddwraig:

Rhiân Evans, 487, Coed-y-Gores, Llanedern, Caerdydd, CF23 9NU.

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â Rhiân ar rhian.evans@cwmpawd.org neu â mi ar emyr.james@cwmpawd.org

Os nad ydych am dderbyn negeseuon pellach gennym, yna rhowch wybod i ni.

Gyda’n diolch fel eglwys, a chan ddymuno pob bendith i chi yng Nghrist,

Emyr James (Gweinidog)

Alternatively, cheques made payable to ‘Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd’ may be sent to our administrator:

Rhiân Evans, 487, Coed-y-Gores, Llanedern, Cardiff, CF23 9NU.

If you require any further information or assistance, then please feel free to contact Rhiân at rhian.evans@cwmpawd.org or myself at emyr.james@cwmpawd.org

If you do not wish to receive further communication from us, then please let us know.

With our thanks as a church, and wishing you every blessing in Christ,

Emyr James (Minister)


I’w lawrlwytho… | To download…