Dydd Sul

Ers i ni ail-ddechrau cyfarfod wedi’r cyfnodau clo, rydym yn benthyg adeilad Tabernacl yr Eglwys Newydd oherwydd fod mwy o le yno nag yn ein adeilad yn Cathays.

Cyfeiriad y Tabernacl yw 81 Heol Merthyr, CF14 1DD.

Mae dau gyfarfod ar ddydd Sul. Yn y bore mae oedfa yn dechrau am 10:00. Mae paned yn dilyn yr oedfa, ac yna ysgolion Sul i bob oed rhwng 11:45-12:30.

Yn y prynhawn mae gennym ni ail oedfa am 17:00. Mae trefn yr oedfaon yn amrywio ychydig o wythnos i wythnos, ond mae elfennau sydd yn gyson i bob cyfarfod.

Rydyn ni’n canu emynau hen a newydd, a bydd rhywun yn ein harwain mewn gweddi. Canolbwynt yr oedfa yw gwrando ar y Beibl yn cael ei ddarllen a’i esbonio. Ar ôl y cyfarfodydd mae cyfle i gael paned a sgwrsio.

Os nad ydych wedi bod o’r blaen efallai eich bod chi’n ansicr beth i’w ddisgwyl. Bydd rhywun yn eich croesawu chi wrth i chi gyrraedd, a gallwch eistedd unrhywle yn y neuadd. Mae croeso i bawb, a pheidiwch deimlo’n swil os ydych chi yn unig am ddod i weld beth sy’n digwydd!