Cwrdd Gweddi

Mae prif gyfarfod canol yr wythnos yn digwydd ar nos Fawrth, pan mae’r Eglwys yn dod at ei gilydd i astudio darn o’r Beibl ac i weddïo. Nos Fawrth cyntaf bob mis mae’r cyfarfod ychydig yn wahanol, wrth i ni weddïo yn benodol dros waith Duw mewn gwledydd eraill. Mae’r cyfarfod fel arfer yn y capel am 19:40, heblaw am nos Fawrth olaf bob mis pan mae grwpiau llai yn cwrdd yn nhai rhai o’r aelodau.