Ein Ffydd

Cyffes Ffydd yr Eglwys:

Derbyniwn yr Ysgrythurau Sanctaidd, fel y’u rhoddwyd hwy gyntaf, yn Air anffaeledig Duw, o ddwyfol ysbrydoliaeth. Gan eu cydnabod fel ein hunig awdurdod ym mhob peth a berthyn i ffydd a buchedd, credwn yr athrawiaethau a ddysgir ynddynt, gan gynnwys yn arbennig y rhai a ganlyn:

1. Credwn yn yr unig wir a bywiol Dduw, yn Drindod Sanctaidd o Bersonau Dwyfol mewn perffaith undod, yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân, yn ogyfuwch ac yn ogyd-dragwyddol â’i gilydd, ac yn benarglwyddiaethol yn y creu, mewn rhagluniaeth ac yn y prynedigaeth.

2. Credwn yn Nuw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist sydd yn sanctaidd, yn gyfiawn, ac yn llawn gras, trugaredd, tosturi a chariad. Yn ei gariad anfeidrol anfonodd ei Fab i’r byd, fel yr achubid y byd trwyddo Ef.

3. Credwn yn yr Arglwydd Iesu Grist, Mab ymgnawdoledig Duw sydd â’i wir ddyndod a’i berffaith dduwdod wedi eu dirgel gydgysylltu yn undod ei Berson dwyfol. Credwn yn ei enedigaeth wyrthiol, yn ei fywyd a’i ddysgeidiaeth berffaith, yn ei farwolaeth iawnol ddirprwyol ar y groes lle y gorchfygodd Satan, pechod ac angau, ac yn ei atgyfodiad corfforol a’i esgyniad i’r nefoedd lle yr eistedd yn awr mewn gogoniant ar ddeheulaw Duw.

4. Credwn yn yr Ysbryd Glân, trydydd Person y Duwdod, sydd â’i waith yn anhepgorol i aileni’r pechadur, i’w dywys i edifeirwch, i roi iddo ffydd yng Nghrist, i sancteiddio’r credadun yn y bywyd hwn a’i gymhwyso i fwynhau cymdeithas â Duw.

5. Credwn fod pob dyn, fel canlyniad i’r Cwymp, yn bechadurus wrth natur. Y mae pechod yn halogi dynion, yn eu llywodraethu, yn llygru pob rhan o’u bodolaeth, yn eu gwneud yn euog gerbron Duw sanctaidd ac yn agored i’r gosb honno y mae ei ddigofaint a’i gondemniad ar bechod yn ei hawlio.

6. Credwn mai trwy ffydd – a ffydd yn unig – yn yr Arglwydd Iesu Grist y cyfiawnheir y pechadur gerbron Duw, a bod ei farwolaeth Ef yn iawn perffaith dros ein pechodau ac yn bodloni deddf Duw trosom. Y mae iachawdwriaeth felly o ras ac nid o haeddiant dyn.

7. Credwn yn yr Eglwys lân gatholig ac apostolaidd, sef Corff Crist, i’r hon y perthyn pob gwir grediniwr. Credwn i Dduw ordeinio i gredinwyr ymffurfio’n eglwysi lleol, sef cynulliad sydd yn cyfarfod i fwynhau cymdeithas â’i gilydd o dan awdurdod a phregethiad Gair Duw ac sydd yn gweinyddu’r ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd.

8. Credwn yn ailddyfodiad personol, gweledig a gogoneddus yr Arglwydd Iesu Grist i farnu’r byw a’r meirw. Achubir i dragwyddoldeb y rhai sydd â’u ffydd yng Nghrist, ac ânt i mewn i lawenydd eu Harglwydd gan rannu ag Ef ei etifeddiaeth yn y Nef, ond condemnir y rhai di-gred ganddo i uffern dragwyddol.

Cyffes bersonol aelod wrth ymuno â’r eglwys:

Credaf yn yr Arglwydd Iesu Grist fel fy Ngwaredwr, fy Arglwydd a’m Duw. Gan ymddiried yn ei farwolaeth iawnol fel unig sail fy iachawdwriaeth, ceisiaf bob amser fyw yn ôl dysgeidiaeth Gair Duw ac arweiniad yr Ysbryd Glân.