Carolau ar y Comin
Carolau ar y Comin

Croeso / Welcome!
Trefn y Gwasanaeth | Order of the Service
Croeso | … | Welcome |
1. Draw yn nhawelwch Bethlem dref Daeth baban bach yn Geidwad byd; Doethion a ddaeth i’w weled Ef, A chanodd angylion uwch ei grud: Draw yn nhawelwch Bethlem dref Daeth baban bach yn Geidwad byd. Draw yn nhawelwch Bethlem dref Nid oedd un lle i Geidwad byd; Llety’r anifail gafodd Ef Am nad oedd i’r baban lety clyd: Draw yn nhawelwch Bethlem dref Nid oedd un lle i Geidwad byd. Draw yn nhawelwch Bethlem dref Fe anwyd Crist yn Geidwad byd; Canwn garolau iddo Ef A molwn ei gariad mawr o hyd: Draw yn nhawelwch Bethlem dref Fe anwyd Crist yn Geidwad byd. John Hughes (1896–1968) (cyhoeddwyd trwy ganiatâd teulu Enid ac Arwel Hughes) | Over in the quiet of Bethlem town A little baby became the Saviour of the world; Wise men came to see Him, And angels sang above his cradle: Over in the quiet of Bethlem town A little baby became the Saviour of the world. Over in the quiet of Bethlem town There was no place for a world Saviour; In the animal’s barn He found No cozy accommodation for the baby: Over in the quiet of Bethlem town There was no place for a world Saviour. Over in the quiet of Bethlem town Christ was born the Saviour of the world; We sing carols to Him And we praise his great love still: Over in the quiet of Bethlem town Christ was born the Saviour of the world. John Hughes (1896–1968) (published with the permission of the family of Enid and Arwel Hughes) | |
Eseia 11: 1-10 O’r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o’i wraidd ef; bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno, yn ysbryd doethineb a deall, yn ysbryd cyngor a grym, yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD; ymhyfryda yn ofn yr ARGLWYDD. Nid wrth yr hyn a wêl y barna, ac nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna, ond fe farna’r tlawd yn gyfiawn a dyfarnu’n uniawn i rai anghenus y ddaear. Fe dery’r ddaear â gwialen ei enau, ac â gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus. Cyfiawnder fydd gwregys ei lwynau a ffyddlondeb yn rhwymyn am ei ganol. Fe drig y blaidd gyda’r oen, fe orwedd y llewpard gyda’r myn; bydd y llo a’r llew yn cydbori a bachgen bychan yn eu harwain. Bydd y fuwch yn pori gyda’r arth, a’u llydnod yn cydorwedd; bydd y llew yn bwyta gwair fel ych. Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb, a baban yn estyn ei law dros ffau’r wiber. Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd, canys fel y lleinw’r dyfroedd y môr i’w ymylon, felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD. Ac yn y dydd hwnnw bydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i’r bobloedd; bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef, a bydd ei drigfan yn ogoneddus. | Isaiah 11: 1-10 A shoot will come up from the stump of Jesse; from his roots a Branch will bear fruit. The Spirit of the Lord will rest on him – the Spirit of wisdom and of understanding, the Spirit of counsel and of might, the Spirit of the knowledge and fear of the Lord – and he will delight in the fear of the Lord. He will not judge by what he sees with his eyes, or decide by what he hears with his ears; but with righteousness he will judge the needy, with justice he will give decisions for the poor of the earth. He will strike the earth with the rod of his mouth; with the breath of his lips he will slay the wicked. Righteousness will be his belt and faithfulness the sash round his waist. The wolf will live with the lamb, the leopard will lie down with the goat, the calf and the lion and the yearling will feed together; and a little child will lead them. The cow will feed with the bear, their young will lie down together, and the lion will eat straw like the ox. The infant will play near the cobra’s den, and the young child will put its hand into the viper’s nest. They will neither harm nor destroy on all my holy mountain, for the earth will be filled with the knowledge of the Lord as the waters cover the sea. In that day the Root of Jesse will stand as a banner for the peoples; the nations will rally to him, and his resting-place will be glorious. | |
2. Clywch lu’r nef yn seinio’n un, Henffych eni Ceidwad dyn! Heddwch sydd rhwng nef a llawr, Duw a dyn sy’n un yn awr. Dewch, bob cenedl is y rhod, Unwch â’r angylaidd glod; Bloeddiwch oll â llawen drem: Ganwyd Crist ym Methlehem! Clywch lu’r nef yn seinio’n un, Henffych eni Ceidwad dyn! Crist, Tad tragwyddoldeb yw, A disgleirdeb ŵyneb Duw; Cadarn Iôr a ddaeth ei hun, Gwnaeth ei babell gyda dyn! Wele Dduwdod yn y cnawd, Dwyfol Fab i ddyn yn Frawd; Duw yn ddyn! fy enaid gwêl Iesu, ein Immanuel! Clywch lu’r nef yn seinio’n un, Henffych eni Ceidwad dyn! Henffych! T’wysog heddwch yw; Henffych! Haul cyfiawnder gwiw; Bywyd ddwg, a golau ddydd, Iechyd yn ei esgyll sydd. Rhoes i lawr ogoniant nef; Fel na threngom, ganwyd Ef; Ganwyd Ef, O! ryfedd drefn, Fel y genid ni drachefn. Clywch lu’r nef yn seinio’n un, Henffych eni Ceidwad dyn! Charles Wesley (1707–88), n.; cyf. p. 1: Peter Jones (‘Pedr Fardd’; 1775–1845); p. 2: Anhysbys; p. 3: Ellis Roberts (‘Elis Wyn o Wyrfai’; 1827–95) | 2. Hark! The herald angels sing “Glory to the new-born king Peace on earth and mercy mild God and sinners reconciled” Joyful all ye nations rise Join the triumph of the skies With angelic host proclaim “Christ is born in Bethlehem” Hark! The herald angels sing “Glory to the new-born king” Hail the heaven-born Prince of Peace! Hail the Sun of Righteousness! Light and life to all He brings Risen with healing in His wings Mild He lays His glory by Born that man no more may die Born to raise the sons of earth Born to give them second birth Hark! The herald angels sing “Glory to the new-born king” Hark! The herald angels sing “Glory to the new-born king Peace on earth and mercy mild God and sinners reconciled” Joyful all ye nations rise Join the triumph of the skies With angelic host proclaim “Christ is born in Bethlehem” Hark! The herald angels sing “Glory to the new-born king” Charles Wesley | |
Micha 5:2-5a Ond ti, Bethlehem Effrata, sy’n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda, ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywodraethwr yn Israel, a’i darddiad yn y gorffennol, mewn dyddiau gynt. Felly fe’u gedy hyd amser esgor yr un feichiog, ac yna fe ddychwel y rhai fydd yn weddill yn Israel at eu tylwyth. Fe saif ac arwain y praidd yn nerth yr ARGLWYDD, ac ym mawredd enw’r ARGLWYDD ei Dduw. A byddant yn ddiogel, oherwydd bydd ef yn fawr hyd derfynau’r ddaear; ac yna bydd heddwch. | Micah 5: 2-5a ‘But you, Bethlehem Ephrathah, though you are small among the clans, out of you will come for me one who will be ruler over Israel, whose origins are from of old, from ancient times.’ Therefore Israel will be abandoned until the time when she who is in labour bears a son, and the rest of his brothers return to join the Israelites. He will stand and shepherd his flock in the strength of the Lord, in the majesty of the name of the Lord his God. And they will live securely, for then his greatness will reach to the ends of the earth. | |
3. I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd, Nid oedd ar ei gyfer na gwely na chrud; Y sêr oedd yn syllu ar dlws faban Mair Yn cysgu yn dawel ar wely o wair. A’r gwartheg yn brefu, y baban ddeffroes; Nid ofnodd, cans gwyddai na phrofai un loes. Rwyf, Iesu, ’n dy garu, O! edrych i lawr A saf wrth fy ngwely nes dyfod y wawr. Tyrd, Iesu, i’m hymyl, ac aros o hyd I’m caru a’m gwylio tra bwyf yn y byd; Bendithia blant bychain pob gwlad a phob iaith, A dwg ni i’th gwmni ar derfyn ein taith. Carol Americanaidd; efel. E. Cefni Jones (1871–1972) (cyhoeddwyd trwy ganiatâd Undeb Bedyddwyr Cymru) | 3. Away in a manger, no crib for a bed The little Lord Jesus laid down His sweet head The stars in the bright sky looked down where He lay The little Lord Jesus asleep on the hay The cattle are lowing, the Baby awakes But little Lord Jesus, no crying He makes I love You, Lord Jesus, look down from the sky And stay by my side until morning is nigh Be near me, Lord Jesus I ask You to stay Close by me forever and love me I pray Bless all the dear children in Your tender care And fit us for heaven to live with You there | |
Luc 2: 1-20 Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru’r holl Ymerodraeth. Digwyddodd y cofrestru cyntaf hwn pan oedd Cyrenius yn llywodraethu ar Syria. Aeth pawb felly i’w gofrestru, pob un i’w dref ei hun. Oherwydd ei fod yn perthyn i dŷ a theulu Dafydd, aeth Joseff i fyny o dref Nasareth yng Ngalilea i Jwdea, i dref Dafydd a elwir Bethlehem, i ymgofrestru ynghyd â Mair ei ddyweddi; ac yr oedd hi’n feichiog. Pan oeddent yno, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, ac esgorodd ar ei mab cyntafanedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a’i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty. Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos. A safodd angel yr Arglwydd yn eu hymyl a disgleiriodd gogoniant yr Arglwydd o’u hamgylch; a daeth arswyd arnynt. Yna dywedodd yr angel wrthynt, “Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd; a dyma’r arwydd i chwi: cewch hyd i’r un bach wedi ei rwymo mewn dillad baban ac yn gorwedd mewn preseb.” Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd.” Wedi i’r angylion fynd ymaith oddi wrthynt i’r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd, “Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.” Aethant ar frys, a chawsant hyd i Fair a Joseff, a’r baban yn gorwedd yn y preseb; ac wedi ei weld mynegasant yr hyn oedd wedi ei lefaru wrthynt am y plentyn hwn. Rhyfeddodd pawb a’u clywodd at y pethau a ddywedodd y bugeiliaid wrthynt; ond yr oedd Mair yn cadw’r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt. Dychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, yn union fel y llefarwyd wrthynt. | Luke 2: 1-20 In those days Caesar Augustus issued a decree that a census should be taken of the entire Roman world. (This was the first census that took place while Quirinius was governor of Syria.) And everyone went to their own town to register. So Joseph also went up from the town of Nazareth in Galilee to Judea, to Bethlehem the town of David, because he belonged to the house and line of David. He went there to register with Mary, who was pledged to be married to him and was expecting a child. While they were there, the time came for the baby to be born, and she gave birth to her firstborn, a son. She wrapped him in cloths and placed him in a manger, because there was no guest room available for them. And there were shepherds living out in the fields near by, keeping watch over their flocks at night. An angel of the Lord appeared to them, and the glory of the Lord shone around them, and they were terrified. But the angel said to them, ‘Do not be afraid. I bring you good news that will cause great joy for all the people. Today in the town of David a Saviour has been born to you; he is the Messiah, the Lord. This will be a sign to you: you will find a baby wrapped in cloths and lying in a manger.’ Suddenly a great company of the heavenly host appeared with the angel, praising God and saying, ‘Glory to God in the highest heaven, and on earth peace to those on whom his favour rests.’ When the angels had left them and gone into heaven, the shepherds said to one another, ‘Let’s go to Bethlehem and see this thing that has happened, which the Lord has told us about.’ So they hurried off and found Mary and Joseph, and the baby, who was lying in the manger. When they had seen him, they spread the word concerning what had been told them about this child, and all who heard it were amazed at what the shepherds said to them. But Mary treasured up all these things and pondered them in her heart. The shepherds returned, glorifying and praising God for all the things they had heard and seen, which were just as they had been told. | |
4. Tawel yw’r nos; sanctaidd yw’r nos; Cysgu’n bêr mae Bethlem dlos; Mair a Joseff yn gwylio ’nghyd; Iesu’r baban bach yn ei grud Gwsg ei nefolaidd hun; Gwsg ei nefolaidd hun. Tawel yw’r nos; sanctaidd yw’r nos; Beth yw’r gwawl sy’n yr wybren dlos? Gwêl y bugeiliaid engyl glân, Clywant eiriau y nefol gân: ‘Ganwyd y Crist o’r nef; Ganwyd y Crist o’r nef.’ Tawel yw’r nos; sanctaidd yw’r nos; Mwyn yw’r gwynt ar waun a rhos; Llif pob gras o wedd Mab Duw, Dydd ein hiachawdwriaeth yw; Moliant drwy’r nef a’r llawr; Moliant drwy’r nef a’r llawr. Joseph Mohr (1792–1848); efel. W. Nantlais Williams (1874–1959) (cyhoeddwyd trwy ganiatâd Stephen Nantlais Williams) | 4. Silent night, holy night! All is calm, all is bright Round yon virgin mother and Child. Holy Infant, so tender and mild, Sleep in heavenly peace, Sleep in heavenly peace. Silent night, holy night! Shepherds quake at the sight; Glories stream from heaven afar, Heav’nly hosts sing Alleluia! Christ the Savior is born, Christ the Savior is born! Silent night, holy night! Son of God, love’s pure light Radiant beams from Thy holy face With the dawn of redeeming grace, Jesus, Lord, at Thy birth, Jesus, Lord, at Thy birth. Joseph Mohr | |
Grwp Plygain yn canu. | Choir singing a ‘Plygain’ carol. | |
Mathew 2: 1-15 Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau’r Brenin Herod, daeth seryddion o’r dwyrain i Jerwsalem a holi, “Ble mae’r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i’w addoli.” A phan glywodd y Brenin Herod hyn, cythruddwyd ef, a Jerwsalem i gyd gydag ef. Galwodd ynghyd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, a holi ganddynt ble yr oedd y Meseia i gael ei eni. Eu hateb oedd, “Ym Methlehem Jwdea, oherwydd felly yr ysgrifennwyd gan y proffwyd: “ ‘A thithau Bethlehem yng ngwlad Jwda, nid y lleiaf wyt ti o lawer ymysg tywysogion Jwda, canys ohonot ti y daw allan arweinydd a fydd yn fugail ar fy mhobl Israel.’ ” Yna galwodd Herod y seryddion yn ddirgel ato, a holodd hwy’n fanwl pa bryd yr oedd y seren wedi ymddangos. Anfonodd hwy i Fethlehem gan ddweud, “Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a’i addoli.” Wedi gwrando ar y brenin aethant ar eu taith, a dyma’r seren a welsent ar ei chyfodiad yn mynd o’u blaen hyd nes iddi ddod ac aros uwchlaw’r man lle’r oedd y plentyn. A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben. Daethant i’r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a’i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr. Yna, ar ôl cael eu rhybuddio mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, aethant yn ôl i’w gwlad ar hyd ffordd arall. Wedi iddynt ymadael, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, ac yn dweud, “Cod, a chymer y plentyn a’i fam gyda thi, a ffo i’r Aifft, ac aros yno hyd nes y dywedaf wrthyt, oherwydd y mae Herod yn mynd i chwilio am y plentyn er mwyn ei ladd.” Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a’i fam gydag ef liw nos, ac ymadael i’r Aifft. Arhosodd yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd: “O’r Aifft y gelwais fy mab.” | Matthew 2: 1-15 After Jesus was born in Bethlehem in Judea, during the time of King Herod, Magi from the east came to Jerusalem and asked, ‘Where is the one who has been born king of the Jews? We saw his star when it rose and have come to worship him.’ When King Herod heard this he was disturbed, and all Jerusalem with him. When he had called together all the people’s chief priests and teachers of the law, he asked them where the Messiah was to be born. ‘In Bethlehem in Judea,’ they replied, ‘for this is what the prophet has written: ‘ “But you, Bethlehem, in the land of Judah, are by no means least among the rulers of Judah; for out of you will come a ruler who will shepherd my people Israel.” Then Herod called the Magi secretly and found out from them the exact time the star had appeared. 8He sent them to Bethlehem and said, ‘Go and search carefully for the child. As soon as you find him, report to me, so that I too may go and worship him.’ After they had heard the king, they went on their way, and the star they had seen when it rose went ahead of them until it stopped over the place where the child was. When they saw the star, they were overjoyed. On coming to the house, they saw the child with his mother Mary, and they bowed down and worshipped him. Then they opened their treasures and presented him with gifts of gold, frankincense and myrrh. And having been warned in a dream not to go back to Herod, they returned to their country by another route. When they had gone, an angel of the Lord appeared to Joseph in a dream. ‘Get up,’ he said, ‘take the child and his mother and escape to Egypt. Stay there until I tell you, for Herod is going to search for the child to kill him.’ So he got up, took the child and his mother during the night and left for Egypt, where he stayed until the death of Herod. And so was fulfilled what the Lord had said through the prophet: ‘Out of Egypt I called my son.’ | |
5. Pan oedd bugeiliaid gyda’u praidd Yn gorwedd ar y bryn, Daeth angel Duw o’r t’wyllwch du Fel golau disglair, gwyn. Wrth weld eu braw a’u dychryn hwy, ‘Nac ofnwch,’ meddai ef, ‘Cans dwyn yr wyf lawenydd mawr – Newyddion da o’r nef. ‘Ym Methlem ganwyd Ceidwad dyn, Sef Crist yr Arglwydd Dduw, O dylwyth Dafydd Frenin gynt, I achub dynol-ryw. ‘A dyma’r arwydd fydd i chwi: Cewch faban yn ei grud Mewn preseb llwm yn llety’r ych A’r gwellt amdano’n glyd!’ Yn sydyn gyda’r seraff roedd Llu mawr o engyl glân Yn llenwi’r nef, mewn moliant pur I Dduw, ar lafar gân. ‘Gogoniant i’r Goruchaf Dduw, Tangnefedd is y nef; I ddynion bydd ewyllys da Byth mwy, o’i eni Ef.’ Nahum Tate (1652–1715); cyf. D. Gwyn Jones (1918–2013) (cyhoeddwyd trwy ganiatâd y cyfieithydd) | 5. While shepherds watched their flocks by night, all seated on the ground, an angel of the Lord came down, and glory shone around. “Fear not,” said he for mighty dread had seized their troubled mind “glad tidings of great joy I bring to you and all mankind. “To you, in David’s town, this day is born of David’s line a Savior, who is Christ the Lord; and this shall be the sign: “The heavenly babe you there shall find to human view displayed, all simply wrapped in swaddling clothes and in a manger laid.” Thus spoke the angel. Suddenly appeared a shining throng of angels praising God, who thus addressed their joyful song: “All glory be to God on high, and to the earth be peace; to those on whom his favor rests goodwill shall never cease.” Nahum Tate, 1987 | |
Mae yna diodydd a danteithion Nadoligaidd yw gael! Diolch am ddod. | There are drinks and festive treats to be had! Thanks for coming. |