Adref / Home
 

Pwy ydyn ni?

Mae'r Eglwys yn Efengylaidd ac yn annibynnol. Ry'n ni yma er mwyn rhannu'r newyddion da am Iesu Grist, i addoli Duw gyda'n gilydd, ac i annog ein gilydd yn ein ffydd.

Rydyn ni'n ddiwygiedig yn ein diwynyddiaeth ac yn dibynnu'n llwyr ar awdurdod y Beibl, fel gair ysbrydoledig Duw.

Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno â ni yn ein cyfarfodydd. Cynhelir ein cyfarfodydd trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae yna ddarpariaeth cyfieithu i'r Saesneg ar gael yn y ddau gyfarfod ar ddydd Sul.