Adref / Home
 


Beth yr ydym yn ei gredu?


Cafodd y Beibl ei ysgrifennu gan nifer o bobl, mewn mwy nag un iaith a thros gyfnod hir. Er hynny, credwn fel Cristnogion mai Duw yw'r awdur a bod un neges glir a chyson yma - bod gan Dduw newyddion da i ni. Mae Duw, sydd wedi creu bob peth, sydd yn cynnal y bydysawd y funud hon, am ein nabod ni yn bersonol.

Nid Duw pell a dieithr mohono. Mae wedi datguddio ei hun, trwy'r Beibl, ac mewn dyn - Iesu Grist. Cerddodd ar ein daear a gall uniaethu â'n holl brofiadau ni - ond mae un gwahanieth mawr; roedd Iesu'n berffaith.

Mae pob un ohonom yn byw bywyd sy'n groes i'r hyn mae'r Duw a'n creodd am i ni fyw. Os yw Duw wedi ein creu a'n cynnal ni, yna dylem ei garu â'n holl galon. Pam nad ydym yn gwneud hynny? Ateb y Beibl yw pechod. Dyma beth sy'n gyfrifol am yr holl ddrygioni sydd yn y byd; dyma beth sydd yn ein gwahanu ni wrth Dduw.

Er i ni wneud pethau drwg, ni wnaeth Iesu unrhyw beth i deimlo cywilydd amdano erioed. Er nad ydym ni yn ystyried Duw a'r ffordd y mae am i ni fyw, gwnaeth Iesu hynny bob dydd o'i fywyd - a byw y bywyd perffaith.

Er gwaethaf hyn, dywed y Beibl wrthym i Iesu Grist gael ei ladd mewn ffordd farbaraidd ar groes Rufeinig. Dioddefodd boen corfforol, ond dioddefodd boen dicter Duw at bechod hefyd.

Sut mae hyn yn newyddion da?

Neges y Beibl yw bod Iesu, wrth iddo farw, wedi cymryd arno'i hun ein pechod ni, ac iddo ddioddef y gosb yr ydym ni yn ei haeddu. Dridiau yn ddiweddarach, cododd o farw yn fyw, gan goncro pechod a marwolaeth - gelynion na allwn ni eu difetha. Mae'r Beibl yn dysgu hefyd y bydd Iesu'n dod nôl eto i farnu'r byd. Fel Eglwys rydym yn cyfarfod er mwyn addoli'r Duw hwn sydd wedi ein creu ni ac wedi ein hachub ni, a cheisiwn rannu'r newyddion da hwn am Iesu Grist â siaradwyr Cymraeg y ddinas hon.