Rhestr o gyfarfodydd
- Cyfarfodydd y Sul (10.00am a 6.00pm)
- Dyma brif gyfarfodydd yr eglwys. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar beth i'w ddisgwyl yn y cyfarfodydd hyn. Ar hyn o bryd rydym yn astudio llythyr Paul at Timotheus ar fore Sul, a rhannau o efengyl Luc yn y nos.
- Archwilio Cristnogaeth
- Cwrs 10 wythnos yw Archwilio Cristnogaeth, sy'n gyfle i archwilio'r ffydd Gristnogol mewn awyrgylch anffurfiol dros bryd o fwyd. Mae'r cwrs yn cael ei gynnal ar nos Lun am 7.30pm.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
- Clwb yr Hapus Awr
- Clwb i blant 6-11 oed, pob nos Lun (ar wahân i wyliau ysgol) rhwng 6.00 a 7:00 o'r gloch. Cyfle i chwarae gêmau, bod yn grefftus, clywed straeon o'r Beibl a chanu.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
- Paned a Sgwrs
- Dyma gyfarfod anffurfiol i ferched lle daw rhywun i siarad â ni, neu byddwn yn astudio darn o'r Beibl gyda'n gilydd - dros baned! Croeso i ferched eraill ymuno â ni bob yn ail fore Mawrth, am 10.00.
Cliciwch yma am amserlen ar gyfer y tymor hwn
- Cyfarfod Gweddi/Astudiaeth
- Rydym yn cyfarfod i astudio darn o'r Beibl a gweddio gyda'n gilydd bob nos Fawrth am 7.30pm.
- Cylch Plant Bach
- Grwp i rieni a'u babanod/plant bach. Rydym ni'n cyfarfod bob bore dydd Gwener (amser tymor ysgol) rhwng 10.00 a 11.30.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
- Clwb Pobl Ifanc
- Clwb i blant 12-18 bob nos Wener (tymor ysgol yn unig) am 7.00pm. Trefnir amrywiol weithgareddau, ac mae cyfle i sgwrsio dros baned, chwarae gêm o denis bwrdd neu foozeball, a chael epilog fer.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
- Bore Coffi Dysgwyr
- Dewch i siarad Cymraeg yn yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg! Cynhelir boreau coffi i ddysgwyr unwaith y mis ar fore Sadwrn rhwng 10.30 - 12.00.
Cliciwch yma am amserlen ar gyfer y tymor hwn