Plant a Phobl Ifanc
Cylch Plant Bach
Grwp i rieni a'u babanod/plant bach. Rydym ni'n cyfarfod bob bore dydd Gwener (amser tymor ysgol) rhwng 10.00 a 11.30.
Clwb yr Hapus Awr
Clwb i blant Blwyddyn 1 - 6, pob nos Lun (ar wahân i wyliau ysgol) rhwng 5.30 a 6.30 o'r gloch. Cyfle i chwarae gêmau, bod yn grefftus, clywed straeon o'r Beibl a chanu. Cynhelir y Clwb yma yn Ysgol Gynradd Melin Gruffydd o fis Medi 2010
Clwb Pobl Ifanc
Clwb i blant 12-18 bob nos Wener (tymor ysgol yn unig) am 7.00pm. Trefnir amrywiol weithgareddau, ac mae cyfle i sgwrsio dros baned, chwarae gêm o denis bwrdd neu foozeball, a chael epilog fer.