Hanes yr Eglwys
Dechreuodd yr eglwys yn 1977 wrth i nifer o Gristnogion o Gaerdydd a'r cylch weld yr angen i ddechrau eglwys efengylaidd, Gymraeg ei hiaith, yn y brifddinas. Dechreuwyd cyfarfod yn Nhŷ'r Cymry yn Gordon Road ac wrth iddi dyfu symudodd yr eglwys i sawl lleoliad arall yn y ddinas cyn symud i'w chartref presennol yn Harriet Street. Deuddeg aelod oedd ar y dechrau ond erbyn hyn mae tua hanner cant. Ar y dechrau y Parch. Noel Gibbard ysgwyddodd y pen trymaf o'r weinidogaeth gyda chymorth Dr. Phil Ellis ac yna yn 1983 galwyd y Parch Gwynn Williams i fod yn weinidog.