Beth i'w ddisgwyl?
Yn ein cyfarfodydd ar ddydd Sul rydym ni'n canu emynau, hen a newydd, yn darllen y Beibl, yn cael ein harwain mewn gweddi ac yna'n gwrando ar y Beibl yn cael ei esbonio. Ar ôl y cyfarfodydd mae cyfle i gael paned a sgwrsio.
Mae yna nifer o gyfarfodydd eraill, sy'n fwy anffurfiol, yn digwydd yn yr wythnos. Mae yna gyfarfodydd i rieni a phlant, dysgwyr a phobl ifanc, a chyfarfod nos Fawrth ar gyfer yr eglwys gyfan. Yn y cyfarfod hwn, bydd rhywun yn ein harwain mewn astudiaeth o ran o'r Beibl, ac mae cyfnod o weddio agored.
Cynhelir ein cyfarfodydd trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae darpariaeth cyfieithu i'r Saesneg ar gael yn y ddau gyfarfod ar ddydd Sul.