Dyma grynodeb byr o gyffes ffydd yr eglwys:
- Credwn mai Gair Duw yw y Beibl, ac rydym yn ei dderbyn fel ein hunig awdurdod.
- Credwn yn yr unig wir Dduw.
- Credwn yn Nuw, y Tad.
- Credwn yn Nuw, y Mab, sef yr Arglwydd Iesu Grist.
- Credwn yn Nuw, yr Ysbryd Glân.
- Credwn fod pob dyn yn bechadur.
- Credwn mai ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist yw yr unig ffordd i gael maddeuant am ein pechodau. Trwy ras yr ydym yn dod yn Gristnogion, nid trwy ein haeddiant ni.
- Credwn yn yr Eglwys, sef Corff Crist.
- Credwn fod yr Arglwydd Iesu Grist yn mynd i ddod eto i farnu'r byw a'r meirw.